Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
National Assembly for Wales |
Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau |
Economy, Infrastructure and Skills Committee |
Blaenoriaethau ar gyfer Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau |
Priorities for the Economy, Infrastructure and Skills Committee |
EIS 04 Cymdeithas yr Iaith |
EIS 04 Cymdeithas yr Iaith |
A. GWEITHREDU YNG NGHYMRU:
Yn y lle cyntaf mae angen i Lywodraeth Cymru rhoi’r Gymraeg yn rhan ganolog o pob rhaglen datblygu economaidd. Nid fel mater ymylol ond fel elfen llorweddol yn croesi pob rhaglen ynghyd ag bod yn gyfle ynddo’i hun i fod yn sbardun economaidd unigryw.
Mae hyn hefyd yn wir am pob rhaglen o gyllid Ewropeaidd a geir megis Amcan 1, Y Gronfa Gymdeithasol, Y Cynllun Datblygu Gwledig.
Dylai hefyd fod yn ofynnol i holl fusnesau sy’n cael grant gan Lywodraeth Cymru ddangos eu bod yn gallu darparu gwasanaeth yn ddwyieithog a bod hynny yn amod creiddiol i’r grant ac yn cael ei fonitro’n iawn.
Yr hyn sydd wedi amlygu ei hun yn ystod y blynyddoedd diwetha’; ydy y natur hap a damwain a geir i ddatblygu economaidd, yn arbennig mewn rhannau o’r Gymru Wledig ers i Fwrdd Datblygu Cymru Wledig cael ei ddiddymu.
Yr elfen arall amlwg ydy’r dirywiad parhaol a geir yn yr ardaloedd gwledig dwfn yng Nghymru a pha mor fregus yw sawl tref a chymuned. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu’n glir yng nghanlyniad y Cyfrifiad diwethaf efo colled parhaol o’n pobl ifanc sy’n tanseilio ymhellach cynaladwyedd y Gymraeg yn y cymunedau hynny.
Credwn felly bod modd gweld cryfhau y sefyllfa economaidd hefyd yn fodd o gryfhau’r Gymraeg; ond hefyd bod modd defnyddio’r Gymraeg fel adnodd economaidd yn hytrach na’i weld fel problem.
I alluogi hyn i ddigwydd credwn dylid dysgu gwersi o rannau eraill o Ewrop a fod yn barod i ddatblygu dulliau newydd o weithredu.
Argymhellir felly tri cam strategol:
· sefydlu corff datblygu economaidd ar sail ‘Udaras na Gaeltachta’ gellir ei alw
‘Anturiaith’
· efelychu Parc Menter Andoain mewn 4 ardal
· datblygu Deorfa Wledig fel rhan o’r Parc Menter
Oherwydd y diffygion strwythurol presennol credir y dylid sefydlu corff datblygu newydd i gydgordio a gweithredu pecyn o weithgaredd a fydd y Gymraeg yn rhan greiddiol a ganolog iddo. Dylid seilio hyn ar corff cyfatebol yn Iwerddon sef; ‘Udaras na Gaeltachta’ neu ‘Highlands & Islands Enterprise’ yn yr Alban.
Dylid lleoli’r corff menter yma yn bwrpasol er mwyn pontio rhwng cymunedau traddodiadol Cymraeg y Gogledd Orllewin a’r De Orllewin ac i fod yn gyfrifol am ddatblygu economaidd ar hyd y Gorllewin ynghyd a rhai rhaglenni cenedlaethol o blaid y Gymraeg.
Serch hynny, nod y corff yma yw i greu cyd-destun cynaladwy i’r Gymraeg ac oherwydd hynny bydd hefyd yn cyfranogi i’r gwaith o weld cynydd yn y Gymraeg yn y De Ddwyrain er mwyn creu cyfleon i’n pobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg tu allan strwythurau addysgol ac i helpu ardaloedd ar hyd y continiwm ieithyddol.
Gwaith ‘Anturiaith’ fydd i weithredu ar sail cydblethu hyrwyddo:
· menter economaidd cynhenid
· datblygu cymunedol
· wedi’u sefydlu ar egwyddorion cynaladwyedd ieithyddol
Mae’r gallu i rwydweithio, rhannu syniadau, rhannu adnoddau a cyd-ddatblygu mentrau yn cael ei gydnabod ym maes datblygu economaidd fel arf defnyddiol sy’n gweithio. Hefyd o ran y Gymraeg mae angen creu peuoedd newydd ynghyd a chreu cyfleon i unigolion a chwmniau rannu adnoddau i ddatblygu cyfleon newydd a hynny’n naturiol trwy gyfrwng y Gymraeg.
Cam strategol cyntaf ‘Anturiaith’ fydd i efelychu model Parc Busnes Andoain, ‘Martin Ugalde Cultural Park’ www.kulturparkea.eus o Wlad y Basg, ynghyd ag esiamplau eraill, drwy greu Parciau Busnes a/neu clystyrau mentrau Cymraeg mewn 4 ardal penodol gan weithredu’n ddwys yna i sbarduno gweithgarwch economaidd newydd. Yr ardaloedd dan sylw fyddai Dyffryn Ffestiniog; Bro Ddyfi, Dyffryn Teifi ac ardal yr Efail Wen, rhwng Pontypridd a Chaerdydd.
Mae’r ardaloedd hyn yn strategol bwysig o ran y Gymraeg ac yn gwasanaethu ardaloedd daearyddol ehangach ac yn galluogi gweithredu ein gweledigaeth o nid yn unig sicrhau dyfodol cymunedol i’r Gymraeg mewn ardal eang ar hyd y Gorllewin ond hefyd yn galluogi symud ardaloedd ar hyd y continiwm ieithyddol a gweld twf yn y Gymraeg mewn peuoedd daearyddol a cymunedol ynghyd a meusydd economaidd newydd.
Fel rhan o’r broses o weithredu’n proactive i ddatblygu syniadau a mentrau newydd, o weithio efo unigolion, cymunedau a rhwydweithiau fe fydd ‘Anturiaith’ yn sefydlu ‘Deorfa Wledig’ i droi syniadau yn realiti ac i hybu arloesedd: Bwriad y prosiect fydd i ddatblygu'r cysyniad o Ddeorfa Wledig, sef sefydlu strwythurau penodol i gefnogi a hybu datblygiad mentergarwch ac entrepreneuriaeth a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.
Byddwn yn creu pecyn fydd yn cynnwys gofod addas i fentrau bychain, sicrhau cyngor busnes, mentora, cyfleoedd leoliadau efo busnesau/gwasanaeth paru, mynediad at gyllid a phecyn cyrsiau/gweithdai wedi’u deilwrio.
Y nod fydd i ddatblygu clwstwr o fentrau newydd fydd yn tyfu efo amser ac yna medru ymestyn i unedau mwy a thrwy hynny gweld budd economaidd yn ehangu ynghyd a sicrhau cynaladwyedd y Gymraeg mewn modd ymarferol.
Rhoddir pwyslais ar sawl maes ond yn naturiol gwelir cyfleoedd yn arbennig i ddatblygu mentrau sy’n ychwanegu gwerth at adnoddau cynhenid boed y rheini yn rhai ieithyddol, diwylliannol, amgylcheddol.
Maes o law fe fydd y cyfleoedd i rwydweithio rhwng mentrau ac wrth i’r clwstwr dyfu fydd syniadau newydd pellach yn datblygu ac yn dwyn ffrwyth ac felly fe fydd y Ddeorfa yn gatalydd ar gyfer newid cadarnhaol ac yn rhoi cynaladwyedd ar waith.